Rhwydweithiau Dysgu ac Addysgu
Rhwydweithiau Addysgu a Dysgu.
Mae ERW yn cyflogi Arweinydd Dysgu ym mhob rhwydwaith er mwyn cefnogi ysgolion i wella'r addysgu a'r dysgu, i ddatblygu'r gwaith o weithredu Dyfodol Llwyddiannus, ac i gyflwyno'r safonau addysgu newydd.
Bydd y fenter hon yn meithrin gallu addysgu a dysgu ledled y rhanbarth fel bod pob athro yn fwy parod ar gyfer Dyfodol Llwyddiannus. Bydd y fenter hon yn galluogi ERW i ddatblygu'r system hunanwella ymhellach.
Bydd yr Arweinwyr Dysgu yn:
- cefnogi datblygiadau Dyfodol Llwyddiannus a'r safonau addysgu newydd
- cyflawni meysydd o'r ddewislen cymorth fel y cânt eu broceru gan yr Ymgynghorwyr Her
- nodi a darparu cymorth effeithiol, sy'n meithrin gallu ac sy'n datblygu'r system hunanwella
- modelu gwersi
- datblygu a darparu adnoddau cyfoethog, sy'n meithrin dealltwriaeth disgyblion o arddull PISA a chwestiynau TGAU newydd
- helpu i ddatblygu Cynllun Gwaith adrannol/rhanbarthol
- datblygu gwaith cynllunio ar y cyd a'r broses o ddarparu gwersi
- darparu sesiynau hyfforddi
- cefnogi'r gwaith o ddatblygu Arweinyddiaeth er mwyn gwella ansawdd yr addysgu a'r dysgu.
Bydd ERW yn:
- darparu hyfforddiant a chymorth rheolaidd ac o ansawdd uchel ar gyfer yr holl Arweinwyr Dysgu
- rheoli'r tîm o Arweinwyr Dysgu yn effeithiol, er mwyn sicrhau bod cymorth o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu i bob ysgol
- monitro effaith gwaith yr Arweinwyr Dysgu, er mwyn sicrhau bod gallu'n cael ei feithrin ledled pob ysgol, a bod deilliannau'r disgyblion yn gwella
- darparu hyfforddiant ar reoli newid i'r holl Arweinwyr Dysgu, er mwyn helpu ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd
- sicrhau bod yr holl Arweinwyr Dysgu yn gwella'u sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn effeithiol.
Datblygu a gweithredu Dyfodol Llwyddiannus
Bydd yr Arweinwyr Dysgu ym mhob clwstwr yn allweddol i gyflawni Dyfodol Llwyddiannus ledled ERW. Bydd yr ymarferwyr hyn yn gyfrifol am ddatblygu'r addysgu a'r dysgu er mwyn paratoi ysgolion ar gyfer y broses weithredu a datblygu gwybodaeth gwricwlaidd ledled pob ysgol.
Bydd pob Arweinydd Dysgu hefyd yn cael hyfforddiant ar reoli newid, er mwyn mynd ati'n effeithiol i gefnogi pob ysgol i roi'r newid ar waith, a'i reoli.