Newyddion
Llythrennedd Corfforol a'r Maes Dysgu a Phrofiad (MDaPh) Iechyd a Lles
Mae'r MDaPh Iechyd a Lles yn 'seiliedig ar lythrennedd corfforol’. Yn ôl y Gymdeithas Llythrennedd Corfforol Ryngwladol, y diffiniad o lythrennedd corfforol yw unigolyn sydd â'r cymhelliant, yr hyder, y cymhwysedd corfforol, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth i werthfawrogi ac i arddel cyfrifoldeb dros gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol am oes.
Mae ERW yn gweithio mewn partneriaeth â Gethin Môn Thomas i ddarparu dysgu proffesiynol ym maes llythrennedd corfforol i bob ymarferydd. Mae Gethin yn darlithio mewn llythrennedd corfforol yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, Prifysgol Bangor, a bu'n ymwneud â'r gwaith o ddylunio'r MDaPh Iechyd a Lles.
Mae Gethin yn darparu hyfforddiant mewn dwy ran:
- Hyfforddiant ar Ymwybyddiaeth o Lythrennedd Corfforol (2 awr)
- Gweithdy cynnydd gyda Llythrennedd Corfforol – dadbacio'r cysyniad (3 awr)
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am yr hyfforddiant a dolen i'r ffurflen gofrestru.
Mae'r lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi.
Mwy o newyddion
-
Tîm Cwricwlwm ERW 28/01/2021
27 Ion, 2021 -
A oes yna fframwaith llythrennedd a rhifedd newydd yn Cwricwlwm i Gymru? A fydd disgwyl i ysgolion dracio'r sgiliau i ddangos eu bod yn cael sylw?
21 Ion, 2021 -
Tîm Cwricwlwm ERW 14/1/2021
13 Ion, 2021 -
Dysgu Proffesiynol: Tegwch a Llesiant Gwanwyn 2021
11 Ion, 2021 -
Tîm Cwricwlwm ERW 07/1/2021
07 Ion, 2021