Newyddion
Dysgu Proffesiynol: Tegwch a Llesiant
Tymor yr Hydref 2020
Dysgu Proffesiynol : Tegwch a Llesiant
08.09.20 19.10.20 |
Cefnogi Ysgolion i Fynd i'r Afael â'r Rhwystrau y mae Dysgwyr PYD yn eu Hwynebu / Challenging Eductaion Mae gwella cyrhaeddiad ein dysgwyr mwyaf bregus a difreintiedig yn rhan allweddol o strategaeth ranbarth ERW ac er mwyn galluogi cyflawni'r amcan hwn rydym yn gweithio gydag Challenging Education i ddatblygu ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf |
10.09.20 |
Dychwelyd I’r ysgol : perthnasoedd yw’r allwedd i lesiant emosiynol/ Professor Robin Banerjee Bydd yr Athro Banerjee yn rhoi cyflwyniad ar yr ymchwil a'r ddirnadaeth seiliedig ar dystiolaeth o bwysigrwydd sylfaenol perthnasoedd cadarnhaol yng nghyd-destun amgylcheddau dysgu. Bydd yn gosod hyn yng nghyd-destun dychwelyd i'r ysgol yn dilyn y cyfyngiadau symud o ganlyniad i Covid-19, ac yn defnyddio arsylwadau cychwynnol a rennir gan ymarferwyr o leoliadau cynradd, uwchradd ac arbenigol. |
16.09.20 |
Cefnogi Dysgwyr Mabwysiedig / Adoption UK Cymru Bydd y cwrs hyfforddi hwn yn rhoi cyfle i arweinwyr ysgol ac ymarferwyr ddysgu rhagor am ddysgwyr mabwysiedig, y rhesymau dros fabwysiadu, a sut y gall trawma cynnar effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd a'r parodrwydd i setlo a dysgu mewn ystafell ddosbarth.
|
21.09.20 |
MAterion Llesiant … I god ysbryd yr ysgol/ Gwylan UK Bydd Simon Johns yn cyflwyno ar yr ymchwil a mewnwelediadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ran pwysigrwydd seicoleg gadarnhaol yng nghyd-destun hyrwyddo ymwybyddiaeth bersonol a chymdeithasol trwy gydol y diwrnod ysgol. Bydd yn cyflwyno'r fideos hyfforddi Wellbeing Matters sy'n cyfleu gwahanol safbwyntiau ar lesiant ledled y wlad. .
|
21.09.20 28.09.20 05.10.20 12.10.20 |
Rhaglen Dysgu Proffesiynol ar gyfer Arweinwyr Dynodedig LAC& Arweinwyr Dysgwyr Bregus /Helen Worrall Rhaglen o bedwar cyfle hyfforddi ar wahân yw hwn, a ddyluniwyd i roi dealltwriaeth ddamcaniaethol a gweithredol gref i ysgolion o'r rôl a'r fframweithiau cymorth y gellir eu defnyddio i gefnogi plant sy'n derbyn gofal a dysgwyr bregus mewn ysgolion. Mae pob sesiwn yn sesiwn hyfforddi arunig ond bydd pob un yn adeiladu gwybodaeth ac yn ategu'r sesiwn flaenorol. Bydd mwy o wybodaeth am bob sesiwn yn cael eu rhannu cyn bo hir
|
Gallwch gael mynediad I holl wybodaeth am y cyfleoedd dysgu proffesiynol Tegwch a Lles yma |