Newyddion
Datblygu Dysgu Digidol ar Lefel Arweinyddiaeth
Mae ERW yn cynnig cyfle i benaethiaid ddatblygu dealltwriaeth o ddysgu digidol ar lefel ysgol gyfan. Y nod yw codi ymwybyddiaeth o'r offer a'r strategaethau a fydd yn galluogi eich ysgol i gynllunio a monitro dysgu digidol yn effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys mireinio ac integreiddio gweithrediad y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar draws y cwricwlwm.
Yn ogystal, croesawir pennaethiaid i wahodd arweinydd digidol i fynychu’r digwyddiad.
Bydd pob ysgol sy'n mynychu yn gallu hawlio £90 tuag at unrhyw gostau cyflenwi, trwy ffurflenni i'w cwblhau ar y diwrnod.
Agenda
9:00 – 9:30 |
Cyrraedd a Chofrestru |
9:30 – 9:45 |
Cyflwyniad (gan gynnwys canllawiau diweddaraf o’ch awdurdod lleol) |
9:45 – 10:30 |
Diweddaraf Dysgu Digidol |
10:30 – 10:45 |
Egwyl |
10:45 – 12:15 |
Arweiniad ymarferol ar sut i strwythuro, monitro a gwerthuso cymhwysedd digidol yn eich ysgol |
Cofrestrwch eich lle yma
Dyddiad |
Amser |
Awdurdod Lleol |
Lleoliad |
Eventbrite |
11/2/19 |
9:00 – 12:15 |
Sir Gar |
Neuadd y Gwendraeth |
|
13/2/19 |
9:00 – 12:15 |
Ceredigion |
Prifysgol Llambed |
|
14/2/19 |
9:00 – 12:15 |
CNPT |
Gwesty’r Village, Abertawe |
|
15/2/19 |
9:00 – 12:15 |
Sir Benfro |
Archifdy Sir Benfro, Hwlffordd |
|
18/2/19 |
9:00 – 12:15 |
Abertawe |
Gwesty’r Village, Abertawe |
|
11/3/19 |
9:00 – 12:15 |
Canol / De Powys |
MRC, Llandrindod Wells |
|
18/3/19 |
9:00 – 12:15 |
Gogledd Powys |
Gwesty Elephant & Castle, Drenewydd |