Gwybodaeth ar COVID-19
Gydag ysgolion nawr ar gau hyd y gellir rhagweld, rydym yn ymwybodol iawn o’r effeithiau ar blant, pobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd.
Er mwyn rhoi help llaw i chi, byddwn yn rhannu adnoddau a fideos defnyddiol dros yr wythnosau nesaf er mwyn cynorthwyo dysgu yn y cartref, ond yn bwysicaf oll, codi’ch calonnau!
O fideos ymarfer corff i adnoddau dysgu Cymraeg, bydd rhywbeth at ddant pawb. Ewch i’r tab ‘Clwb Cartref’ am fwy o wybodaeth.
Gwybodaeth ar COVID-19
Cofiwch aros gartref oni bai eich bod:
- Yn mynd allan am fwyd
- Yn gwneud ymarfer corff
- Yn teithio i’r gwaith neu’r ysgol (dim ond os na allwch weithio gartref)
- Arhoswch 2 fetr (6 troedfedd) i ffwrdd oddi wrth bobl nad sydd yn byw gyda chi
- Golchwch eich dwylo yn aml a chyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd adref.
Rhagor o wybodaeth ar gael yma. Os ydych yn poeni am eich iechyd neu iechyd rhywun arall, edrychwch ar wiriwr symptomau’r GIG.