Yn sownd yn y tŷ ac yn awyddus i ddysgu sgil neu hobi newydd — neu’n syml am gael ychydig o hwyl? Dros y misoedd nesaf bydd Clwb Cartref yn cyflwyno cyfres o arbenigwyr a fydd yn rhannu eu tipiau a thriciau gyda chi. O ganu i ffitrwydd i goginio, bydd rhywbeth at ddant pawb — dim ots beth yw’ch oedran!
Porwch y fideos ac adnoddau isod a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i weld y cynnwys diweddaraf!
Mae cerddoriaeth yn ffordd wych o godi’ch ysbryd, felly p’un a ydych yn gweld eisiau canu mewn côr neu jyst awydd dod o hyd i’ch llais, mae Bronwen Lewis o enwogrwydd rhaglen ‘The Voice’ yma i’ch helpu ar hyd y ffordd!
Twymo’r llais gyda Bronwen Lewis
Mae Bronwen yn rhannu ei chyngor ar sut i gynhesu’r llais a chanu mor bwerus ag y gallwch. Dim ots a ydych chi’n seren pop yn barod neu’n canu’n weddol fflat - bydd y wers gallu gymysg hon yn cael eich diaffram i weithio ac yn rhoi rhywfaint o fwynhad mawr ei angen ar yr un pryd!
Yn sownd yn y tŷ ond yn awyddus i gadw’ch corff a’ch meddwl yn iach? Mae Steff, sydd fel arfer yn darparu gwersi chwaraeon mewn ysgolion, yma i’ch helpu i gadw ar ben eich ymarfer corff. O sgiliau pêl i sesiynau ffitrwydd gyda sach gefn, mae rhywbeth i bawb.
Sgiliau Pêl gyda Steff Sgiliau
Gweld eisiau chwaraeon pêl? Mae Steff, sydd fel arfer yn darparu gwersi chwaraeon mewn ysgolion, yma i’ch helpu i gadw ar ben eich sgiliau. Gafaelwch mewn unrhyw bêl sydd gennych wrth law, a dilynwch y symudiadau i ddatblygu eich sgiliau taflu, dal a chydsymud. Does dim angen i chi fod yn bêl-droediwr medrus i gymryd rhan - gallwch hyd yn oed ddefnyddio papur tŷ bach ar gyfer rhai o’r symudiadau!
RHYBUDD: byddwch yn ofalus gyda dodrefn a gwrthrychau eraill os ydych chi’n dilyn y fideo hwn tu fewn.
Ffitrwydd gyda Steff Sgiliau
Mae Steff ‘nôl gyda sesiwn ffitrwydd sy’n defnyddio eitemau sydd gennych yn y cartref yn barod. Llenwch sach gefn gyda thuniau neu foteli sy’n cyfateb i bwysau sy’n siwtio chi. Cofiwch, y mwyaf o bwysau sydd yn y bag, yr anoddaf fydd y symudiadau. Eisiau her? Ceisiwch gwblhau’r fideo ddwywaith!
TIP: mae un litr yn gyfwerth ag un cilogram.
Mabolgampau Cartref gyda Steff Sgiliau
Angen syniadau gwahanol am bethau i’w gwneud fel teulu? Rhowch gynnig ar gynnal eich mabolgampau eich hunain, adref! Gallwch wneud y gweithgareddau tu allan neu thu fewn gan ddefnyddio eitemau sydd gennych yn y cartref yn barod. Perffaith ar gyfer y penwythnos neu ar ddiwedd diwrnod o ddysgu o adref.
Rholio gyda Steff Sgiliau
Mae Steff yma i rannu sut i wella’ch cryfder a chydbwysedd trwy rholio – ie, rholio! Dyna’i gyd sydd angen yw chi eich hun, hosan hir a digon o ffocws i gael eich hun i fyny ar eich traed heb ddefnyddio’ch dwylo! Swnio’n syml, ond ydych chi’n barod am yr her?
Teimlo’n stiff ar ôl eistedd wrth y cyfrifiadur trwy’r dydd, neu wedi bod yn gwneud dipyn o ymarfer corff yn ddiweddar? Mae’n bwysig edrych ar ôl eich cyhyrau er mwyn ymlacio ac osgoi anafiadau, felly mae Hanna yma i’ch arwain trwy ambell symudiad.
Ymestyn gyda Hanna
Mae ymestyn yn ffordd berffaith i ymlacio ac osgoi anafiadau i’ch cyhyrau ar yr un pryd. Diffoddwch y teledu, caewch y drws, a gadewch i Hanna eich tywys drwy 15 munud o ymestyn.
Twymo’r Corff gyda Hanna
Am wneud ychydig o ymarfer corff ond burpees a neidiau seren ddim yn apelio? Beth am ymuno â’r sesiwn gryfder ysgafn hon? Gallwch hyd yn oed ddefnyddio’r ymarferion i dwymo lan cyn sesiwn mwy egnïol .
P’un a ydych angen ysbrydoliaeth ar gyfer amser swper, neu rywbeth i ddiddanu’ch hun neu’r plant, rhowch gynnig ar rai o ryseitiau syml #Bwyd.
Pitsa Cartref Cyflym gyda #Bwyd
Os ydych chi’n cael trafferth meddwl am ryseitiau newydd o hyd, sy’n gyflym ac yn flasus i’w coginio, beth am roi cynnig ar bitsas cartref cyflym #Bwyd? Mae’r rysáit yn rhwydd dilyn i blant ac oedolion!
Ar gyfer un pitsa, bydd angen:
113g blawd codi
28g margarîn
½ nionyn
85g caws wedi gratio
1 wy
½ llwy de o berlysiau cymysg
½ llwy de o fwstard
Pupur du
Halen
3 llwy bwdin o biwrî tomato
Cymysgedd o gig, caws a llysiau o’ch dewis chi ar gyfer y top!
TIP: Os oes rhywun yn y teulu’n llysieuwr, yna ychwanegwch fwy o lysiau yn lle cig!
Spaghetti Peli Cig gyda #Bwyd
Breuddwydio am ddianc i’r Eidal? Does dim angen breuddwydio ymhellach – mae Cadi’n dod â blas yr Eidal atoch chi gyda’r pryd blasus hwn!
Eisiau rhywbeth melys sydd ddim yn rhy aniachus? Gyda chymorth Morflasus, gallwch blesio’r teulu gyfan gyda’r ryseitiau syml hyn!
Cwcis Ceirch Cyflym gyda Morflasus
Os ydych chi, fel ni, o hyd yn ceisio jyglo mwy nag un peth ar unwaith, mae’r rysáit hon yn berffaith — mae’n gyflym, yn flasus, a ddim yn rhy ddrwg i chi chwaith!
Ar gyfer 6-8 cwci, bydd angen:
200g ceirch
½ llwy fwrdd blawd plaen
½ llwy fwrdd blawd codi
70g almonau wedi’u torri’n fân
1 llwy de powdr cocoa
6 llwy fwrdd surop masarn
4 llwy fwrdd olew cnau coco, wedi’i doddi
1 llwy fwrdd o laeth almon
1 llwy de powdr pobi
40g siocled o’ch dewis chi wedi’i dorri’n fân
Pinsiad o halen
TIP: gallwch amnewid rhai o’r cynhwysion os nad oes gennych chi nhw yn y cwpwrdd. E.e. gellir cyfnewid llaeth almon am laeth buwch neu laeth soia. Mae modd hefyd defnyddio olew blodyn yr haul yn lle olew cnau coco.
Mae Rhiannon yn artist o Orllewin Cymru, ac mae hi wrth ei bodd yn ychwanegu tipyn o liw i’w gwaith! Mae lliwio a darlunio yn ffyrdd perffaith i ymlacio – i blant ac oedolion!
Lliwio Cymru hapus gyda Rhiannon
Mae Rhiannon yma i liwio’i darlun diweddaraf, Cymru Hapus! Gafaelwch yn eich pens a phensiliau lliw, a gadewch i’ch dychymyg grwydro. Mae’r amlinelliad ar gael i’w lawrlwytho ac argraffu yn y PDF isod. TIP: os nad oes gennych argraffydd, beth am roi cynnig ar dynnu’ch fersiwn eich hun o’r amlinelliad?
Byth wedi bod yn greadigol iawn gyda’ch celf? Dyma’ch cyfle i arbrofi! Dilynwch gamau syml Rhiannon i greu dau ddarlun dyfrlliw tebyg. Cofiwch rannu’ch campweithiau ar gyfryngau cymdeithasol!
TIP: os nad oes gennych baent dyfrlliw, defnyddiwch baent arferol neu bensiliau lliw!