Y Llwybr at Gydweithredu Traws-ranbarthol – Mai 2018

Consortia Gwella Ysgolion Rhanbarthol

Regional School Improvement Consortia 

 Y Llwybr at Gydweithredu Traws-ranbarthol – Mai 2018

gan Arwyn Thomas (Rheolwr Gyfarwyddwr GwE), Betsan O'Connor (Rheolwr Gyfarwyddwr, ERW), Debbie Harteveld (Rheolwr Gyfarwyddwr, EAS) a Mike Glavin (Rheolwr Gyfarwyddwr, CSC)

Cefndir

Daeth y pedwar consortiwm rhanbarthol at ei gilydd i ddechrau'r broses o gydweithredu traws-ranbarthol am y tro cyntaf ym mis Medi 2015. Roedd yn amlwg ar yr adeg hon y byddai cydweithio yn cynnig llawer o fanteision i bob un o'n rhanbarthau, ac yn fwyaf pwysig i'r holl ddysgwyr. Fodd bynnag, er ein bod yn cytuno bod cydweithredu traws-ranbarthol yn cynnig ffordd resymegol ymlaen, yn y cam hwn nid oedd yr isadeiledd ar gael i symud ymlaen mewn ffordd gyson a chydlynol.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac roedd y rhagolygon traws-ranbarthol yn wahanol iawn. Roeddem wedi adeiladu ar yr amcan cyffredin o gydweithio, ac wedi bod yn dyst i nifer o gamau cadarnhaol ymlaen, yn ogystal â llwyddiannau arwyddocaol, gan gynnwys cynnydd cyd-brosiect y Rhaglen Diogelu Asesiadau Athrawon (STAP), Categoreiddio Cenedlaethol, a'r broses o leihau'r Grant Gwella Addysg (EIG) i ffurfio un grant. Ochr yn ochr â'r cynnydd hwn, aethom ati i gymryd camau cadarnhaol ymlaen i oresgyn y rhwystrau ymarferol i gydweithredu traws-ranbarthol, er enghraifft recriwtio rheolwr prosiectau traws-ranbarthol, a sefydlu gweithgorau traws-ranbarthol sy'n gysylltiedig â ffrydiau gwaith penodol mewn meysydd allweddol.

Ble yr ydym ni 'nawr?

Yn allweddol, mae yna eglurder o ran y diben, a hynny ar ffurf cyd-gynllun wedi'i ddiffinio'n dda. Mae'r argymhelliad a wnaed yn adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn 2016, sef y dylai "consortia rhanbarthol gydgysylltu a chydweithio ymysg ei gilydd, gan wella cysondeb o ran ansawdd y gwasanaethau", wedi cael ei wireddu. Rydym yn deall hyd a lled y dasg, ac wedi cynllunio ar ei chyfer. Mae pob un ohonom ni, arweinwyr y consortia, yn noddi prosiectau penodol yn y cyd-gynllun, ac yn mynd ati'n rheolaidd i rannu gwybodaeth am gynnydd y prosiectau, yn ogystal â gweithgarwch mewn meysydd eraill yn y consortia, a hynny gyda'r bwriad o ddileu dyblygu a sicrhau darpariaeth gyson, o ansawdd uchel ledled Cymru.

Mae cydweithredu traws-ranbarthol yn uchelgeisiol, ond mae ein hamcanion yn glir. Byddwn yn sicrhau dull gweithredu cynlluniedig a chyson, a fydd yn sefydlu lefelau safonol o ran disgwyliadau a gwasanaethau. Dylai pob un o'n dysgwyr, ni waeth beth yw eu hangen a'u lleoliad unigol, gael profiad dysgu sydd o'r safon uchaf ac sy'n cael effaith amlwg ar eu cyfleoedd bywyd. Y cydweithredu traws-ranbarthol yw'r sail sy'n gyrru ac yn cefnogi'r uchelgais hon.

Ein prosiectau Rhanbarthol

Mae'r cyd-gynllun yn nodi naw prosiect:

 

 

Prosiect

 

Trosolwg o'r Prosiect

Nodau'r Prosiect

 

Mae tystiolaeth yn dangos bod baich gwaith gormodol yn effeithio ar y broses o recriwtio a chadw athrawon. Gan weithio ochr yn ochr ag Estyn, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio set glir o'r hyn y dylid ei wneud a'r hyn na ddylid ei wneud, er mwyn helpu i egluro'r disgwyliadau o ran llwyth gwaith ar gyfer yr holl athrawon ledled Cymru. Mae rhaglen hyfforddi genedlaethol wedi cael ei datblygu i gefnogi pob ysgol ar ei thaith i leihau'r llwyth gwaith, a hynny trwy uwch-sgilio athrawon er mwyn gofalu eu bod yn rhoi adborth yn y modd mwyaf effeithiol ac effeithlon posibl, gan sicrhau'r effaith orau ar gyfer y disgyblion ar yr un pryd. Trwy ymchwil, ymweliadau ag ysgolion, astudiaethau achos, gweithio mewn partneriaeth a gwrando ar ddysgwyr, mae enghreifftiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth wedi cael eu coladu i ddangos y ffordd y gall ysgolion ddatblygu eu mecanweithiau adborth i sicrhau'r effaith fwyaf ar y dysgwyr.

 

  • Meithrin athrawon mewn ysgolion, sy'n gallu defnyddio adborth mewn modd effeithiol, fel ei fod yn cael yr effaith leiaf ar lwyth gwaith athrawon ond yn sicrhau'r effaith fwyaf ar gynnydd y disgyblion.
  • Sicrhau cydlyniad â'r Cwricwlwm i Gymru, ac atgyfnerthu'r ffaith bod addysgu a dysgu da yn golygu defnyddio egwyddorion asesu ar gyfer dysgu, ac yn annog plant a phobl ifanc i ysgwyddo cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain.

 

 

Er mis Gorffennaf 2016, mae'r pedwar rhanbarth wedi bod yn cydweithredu mwy ar ddatblygu cynigion dysgu proffesiynol i arweinwyr ysgolion. Ym mis Gorffennaf 2016, dechreuodd y gwaith hwn wrth i gynnig diwygiedig gael ei lunio ar gyfer darpar benaethiaid, a hynny ar gais Llywodraeth Cymru. Lluniwyd rhaglen newydd y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP), ac fe'i diwygiwyd ers hynny. Mae cyflwyno'r Bwrdd Cysgodol ar gyfer yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL) wedi cyflymu'r cydweithio hwn, ac mae'r rhanbarthau wedi ymateb yn unol â hynny, gan gytuno i ymestyn yr elfennau cyffredin fesul cam.

  • Datblygu a sicrhau darpariaeth gyffredin ar gyfer darpar benaethiaid, penaethiaid sy'n newydd i'r swydd, a phenaethiaid profiadol ledled y pedwar rhanbarth, a hynny fesul cam.
  • Caffael neu ddatblygu offer a dogfennau i gefnogi'r nod.
  • Ymgysylltu ag asiantaethau y mae eu gwaith yn effeithio ar ddiben y prosiect, a mewnbynnu gwybodaeth newydd sy'n deillio o ddatblygiadau'r asiantaethau hyn, e.e. Meini Prawf Ardystiad NAEL.
 

Ar hyn o bryd, mae Cymru'n ei chael hi'n anodd recriwtio athrawon i'r rolau addysgu a rolau'r penaethiaid sydd ar gael. Mae hyn, yn amlwg, yn cael effaith negyddol ar brofiad dysgwyr, ac mae iddo oblygiadau pellgyrhaeddol o ran costau, sy'n arwain at rwystr sylweddol i'r gwaith o gynnal a gwella safonau addysgu yng Nghymru.

Yn y pen draw, er mwyn i'r consortia gyflawni eu hamcanion o wella ysgolion, mae'n hanfodol yr eir i'r afael â materion recriwtio a chadw, er mwyn sicrhau sylfaen gadarn ar gyfer pob menter arall. Byddai methu gwneud hynny nid yn unig yn peryglu llwyddiant prosiectau eraill, ond hefyd yn effeithio'n negyddol ar bob cam tuag at wella ysgolion yn barhaus.

  • Codi proffil Cymru fel lleoliad rhagorol i athrawon fyw a gweithio, ac, wrth wneud hynny, gynyddu'n sylweddol nifer ac ansawdd yr athrawon a'r penaethiaid sy'n gwneud cais am swyddi yng Nghymru.
  • Cefnogi'r gwaith o gadw athrawon trwy godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd i sicrhau dilyniant a symud ymlaen â'u gyrfa yng Nghymru.
  • Dylid cyflawni'r nod o dan faner "Darganfod Addysgu”, sy'n ymgyrch aml-blatfform.
 

Gwella safonau mewn ysgolion yw cyfrifoldeb craidd y consortia fel y cyrff sy'n gwella ysgolion yng Nghymru.

 

  • Nodi, rhannu a gweithredu arferion gwella ysgolion rhagorol ledled y consortia.
  • Nodi anghenion datblygu cyffredin, a mynd i'r afael â nhw, gan ddefnyddio hunanarfarnu fel man cychwyn.
 

Sefydlwyd hyn i godi proffil y prosiectau traws-ranbarthol a gwaith trosfwaol y consortia, er mwyn meithrin dealltwriaeth a sicrhau neges gyson, a dileu dyblygu o ran ymdrech. At hynny, mae'r tîm yn gyfrifol am fynd i'r afael â materion cyfathrebu sy'n ymwneud ag effeithlonrwydd gweithredol pob prosiect traws-ranbarthol, a chyflawni anghenion cyfathrebu'r prosiectau hynny.

 

  • Sefydlu tîm cyfathrebu traws-ranbarthol.
  • Sefydlu, datblygu a gweithredu dulliau cyfathrebu traws-ranbarthol effeithiol.
  • Codi proffil prosiectau traws-ranbarthol a gwaith y Consortia.

 

 

Mae tîm y prosiect Dysgu Ôl-16 yn gyfrifol am gyflawni'r camau gweithredu a ddynodwyd i'r consortia, ac a nodir yn Adolygiad Llywodraeth Cymru o'r cymhwyster Safon Uwch. At hynny, mae'r tîm yn datblygu Rhaglen Arweinyddiaeth Ôl-16 pwrpasol.

  • Sefydlu grŵp traws-ranbarthol o gynrychiolwyr ôl-16 wedi'u henwebu o bob consortiwm.
  • Cydweithio i nodi amcanion Adolygiad Llywodraeth Cymru o'r cymhwyster Safon Uwch, ynghyd â'r hyn y gellir ei gyflawni, a'u rhoi ar waith, a sicrhau darpariaeth gyson ledled y pedwar rhanbarth.
  • Datblygu rhaglen Arweinyddiaeth Ôl-16.

 

 

Cefnogi'r gwaith o ddatblygu a gwireddu agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, a hynny mewn modd rhagweithiol a chyson.

  • Adeiladu ffordd well o ddysgu, cyflawni rhagoriaeth gyda'n gilydd, ac ysbrydoli pobl ifanc iach, mentrus a hyderus.
  • Gan fod ein pobl ifanc yn byw mewn byd sy'n newid o hyd, adeiladu system a fydd yn addasu i sicrhau bod pobl ifanc yn meddu ar yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer 'nawr a'r dyfodol.

 

 

Cenhadaeth sylfaenol timau'r prosiectau yw archwilio, cydlynu a lledaenu ymchwil ar y cyd, a darparu cefnogaeth ragweithiol, ganolog i raglen dysgu proffesiynol y consortia, ac i ddimensiynau model Llywodraeth Cymru, Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu.

 

  • Mynegi strategaeth ymchwil, polisi a chynllun clir.
  • Cydgysylltu a lledaenu gwaith ymchwil y consortia, a sicrhau bod unrhyw ddyblygu yn cael ei ddileu.
  • Ar y cyd, comisiynu a rheoli gwaith ymchwil o ansawdd uchel, lle y sefydlwyd bod yna angen clir.
  • Sicrhau'r budd mwyaf i'r athrawon a'r consortia.
  • Sicrhau gwerth am arian.
  • Cefnogi a chynnal dimensiynau model Llywodraeth Cymru, Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu.
  • Ymgysylltu â phartneriaethau a'u datblygu, er mwyn sicrhau rhagoriaeth, didwylledd a chymhwysedd y gwaith ymchwil.

 

 

Sefydlu rhaglen draws-ranbarthol o ddysgu proffesiynol.

  • Datblygu a chyflawni darpariaeth gyffredin ar gyfer athrawon a chynorthwywyr ledled y pedwar rhanbarth, a hynny fesul cam.
  • Sefydlu diffiniad o ddysgu proffesiynol, yn ogystal â fframwaith a chynnig ar ei gyfer.
  • Sefydlu sail dystiolaeth yn seiliedig ar ymarfer.
  • Ymgysylltiad parhaus â phartneriaid eraill ar draws y tair haen.

Mae yna dîm prosiect â ffocws yn gysylltiedig â phob prosiect, sy'n gyfrifol am sefydlu, llunio a chyflawni'r prosiect hwnnw.

 

Bydd blogiau pellach yn darparu diweddariadau ar brosiectau penodol; bydd y nesaf yn canolbwyntio ar Ddatblygu Arweinwyr.

 

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau, cysylltwch â: Helen Richards, Rheolwr Prosiectau Gwaith Traws-ranbarthol (E-bost: helen.richards@sewaleseas.org.uk

Ffôn symudol: 07903 546 129)