Dwyieithog i Amlieithog

Cynhelir trydydd Cynhadledd Ieithoedd ERW ar Chwefror 1af ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe. Yn dilyn llwyddiant y ddwy gynhadledd ddiwethaf, mae nifer y gweithdai wedi cynyddu eleni ac yn cynnwys sesiwn Holi ac Ateb gyda Huw Edwards yn ogystal â blas ar Arabeg, Mandarin, Rwsieg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg.

Bydd y diwrnod yn dathlu ieithoedd a diwylliannau gwahanol ac yn arddangos ein partneriaethau gyda phrifysgolion, sefydliadau iaith a’r byd gwaith. I gael mwy o wybodaeth a neilltuo lle, cliciwch ar y ddolen Eventbrite isod:

https://www.eventbrite.co.uk/e/dwyieithog-i-amlieithog-cynhadledd-ieithoedd-erw-2018-bilingual-to-multilingual-erw-languages-tickets-41943689705